Mannau Gwyrdd Gwydn

Mae Open Food Network, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chynghrair Gweithwyr y Tir wedi ymuno i sefydlu pum canolfan fwyd fentrus a chynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru i ddarparu bwyd sy’n dda i bobl, yn dda i’r amgylchedd ac yn dda i fusnesau lleol drwy hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r pum sefydliad a lwyddodd i gael eu dewis i ddatblygu hyb bwyd oedd:

Mae’r cyfle hwn yn rhan o brosiect partneriaeth Mannau Gwyrdd Gwydn, gwerth £1.27m  sy’n peilota systemau bwyd amgen ac a adleoliwyd trwy brofi’r hyn y gall pobl ei wireddu gyda’i gilydd mewn mannau gwyrdd, trwy chwe maes gwaith.  Mae Mannau Gwyrdd Gwydn wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Gwnaeth sefydliadau o bob rhan o Gymru gais ac fe’u dewiswyd yn dilyn proses ymgeisio 2 gam, bydd y pecyn cymorth newydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2023 i helpu pum canolfan i ffynnu mewn gwirionedd!  Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at gyllid i gefnogi amser staff a grant i dalu am brynu cyfarpar.  
  • Pecyn cymorth a hyfforddiant rheolaidd hyd at fis Mehefin 2023 i’ch helpu chi a’ch sefydliad ddatblygu hwb bwyd effeithiol a hyfyw. 
  • Cymorth arbenigol mewn perthynas â chynlluniau busnes, cyllid, marchnata, ymgysylltu â’r gymuned a mwy.

Bydd gan y pum hwb bwyd fynediad at gymorth holl bartneriaid y prosiect, gan gynnwys mynediad at adnoddau dysgu a chymorth y RhBA.

“Mae hwn yn brosiect ffantastig i fod yn rhan ohono. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid gwych i ddarparu pecyn cefnogi gwirioneddol dda ar gyfer y canolfannau bwyd. Mae’r canolfannau eu hunain yn ysbrydoliaeth ac mae’n anrhydedd i allu gweithio gyda nhw a’u cefnogi – nhw yw dyfodol y system fwyd yng Nghymru.”

~ Meddai Jo da Silva, Cefnogaeth Prosiect ar gyfer OFN ar brosiect canolfannau bwyd Mannau Gwyrdd Gwydn:

Darganfod mwy

Am fwy o wybodaeth am brosiect ehangach Mannau Gwyrdd Gwydn, a chyfleoedd eraill i gymunedau ddod ynghyd fel rhan o’r prosiect, ewch i wefan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol:

Mae Open Food Network yn falch o fod yn aelod o’r bartneriaeth Mannau Gwyrdd Cydnerth. Mae’r prosiect partneriaeth gwerth £1.27m yn cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dreialu systemau bwyd amgen sydd wedi’u hail-leoleiddio gan ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel y sbardun ar gyfer newid ledled Cymru tan fis Mehefin 2023.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Partneriaid