Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Open Food Network UK wedi bod yn gweithio ar gynllun peilot arloesol i ddangos dichonoldeb cyflenwi bwyd lleol ar blât cyhoeddus Cymru. Gan weithio gyda phartneriaid o Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru  a Foothold Cymru, ein nod oedd dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol gan ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Derbyniodd y prosiect gyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, i beilota dau hyb caffael bwyd newydd yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Powys. Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben, rydym yn edrych ar ein gwersi allweddol a ddaeth o’r prosiect. 

Cefndir

Er mwyn ail-ddychmygu ein systemau bwyd, ail-leoleiddio’r cadwyni cyflenwi a chynyddu ansawdd a gwerth maethol bwyd, yn ogystal â dargyfeirio mwy o arian i’r economi leol, mae’r pŵer prynu sydd gan gyrff cyhoeddus mawr yn cynrychioli cyfle trawiadol i newid. Er bod cynnyrch llaeth a chig yn gymharol aml yn dod gan gynhyrchwyr o Gymru, nid oes yr un categori arall yn cynrychioli mwy o gyfle i wella na ffrwythau a llysiau ffres. Mae’r ystadegau yn dweud y cyfan; dim ond 6% o’r ffrwythau a’r llysiau gafodd eu prynu gan sector cyhoeddus Cymru i gyflenwi’r plât cyhoeddus yn 2019/20 oedd o ffynhonnell Gymreig. Mae hynny’n cyfateb i gyfanswm gwariant o tua £435k ar gynnyrch o Gymru, o’i gymharu â £6.8 miliwn ar gynnyrch wedi’i dyfu a’i brynu y tu allan i Gymru. Mewn cymhariaeth, roedd 94% o gynnyrch llaeth yn 2019/20 yn dod o ffynonellau Cymreig.

Swyddogaeth Open Food Network

Er bod yr hybiau a phartneriaid eraill y prosiect yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gyflenwyr lleol a phrynwyr cyhoeddus ar gyfer y prosiect, yr her i Open Food Network oedd sut i ddefnyddio’r platfform meddalwedd i gefnogi cyflenwyr a hybiau o safbwynt technegol. Y gofyniad allweddol o’r agwedd hon oedd cydgrynhoi stoc ar draws cyflenwyr er mwyn cyflenwi’r archebion mwy sydd eu hangen gan y sector cyhoeddus. Roedd yr angen yn gamarweiniol o syml; cyfuno cynnyrch gan gyflenwyr lluosog, wedi’i gydgrynhoi yn ôl math o gynnyrch, yn un rhestr cynnyrch unigol y gallai prynwyr cyhoeddus ei defnyddio i archebu.  Yn ymarferol, fodd bynnag, golygai hyn yn gyntaf ddiffinio model prisio y gellid ei gymhwyso’n gyson ar draws pob cyflenwr i bob hyb caffael.

Prisio a Chydgasglu Stoc

Dewisodd pob hyb ddefnyddio model prisio gwahanol ar gyfer eu cyflenwyr. Cytunodd un i dalu prisiau a neilltuwyd ar gyfer cynnyrch i gyflenwyr, tra cytunodd y llall y byddai’r holl gyflenwyr yn cael yr un pris am yr un cynnyrch yn seiliedig ar restrau prisiau garddwriaethol cyfanwerthu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a Chymdeithas y Pridd. Felly roedd y ddwy strategaeth brisio wahanol wedi golygu bod angen atebion technegol gwahanol, gan arwain at integreiddio arferion (system ar gyfer mewnbynnu a fformatio gwybodaeth i ‘siarad’ â Open Food Network) yn cael ei adeiladu ar gyfer pob hyb.     

Gydag amserlen fer y prosiect a’r angen am ailadrodd a datblygu cyflym, datblygodd Open Food Network yr integreiddiadau hyn gan ddefnyddio taenlenni wedi’u galluogi gan sgriptiau. Roedd y taenlenni yn galluogi hybiau i nodi argaeledd cynnyrch cyflenwyr bob wythnos, clicio botwm a derbyn rhestr brisiau wedi’i fformatio’n awtomatig trwy e-bost yn barod i’w huwchlwytho ar lwyfan Open Food Network. Ar gyfer yr hyb oedd yn defnyddio rhestrau prisiau cyfanwerthol, roedd prisiau newydd yn cael eu tynnu i mewn i’r daenlen yn awtomatig bob tro yr oedden nhw’n cael eu diweddaru ar wefannau’r llywodraeth a Chymdeithas y Pridd, ynghyd â’r maint elw gwerthiant wedi’i ddiffinio gan hybiau. Roedd hyn yn golygu y gallai rheolwr yr hyb ddewis y cynhyrchion sydd ar gael, a byddai’r pris yn awtogwblhau i’r pris a gyhoeddwyd ddiweddaraf.

Gyda’r hyb oedd yn defnyddio prisiau cyflenwyr, byddai rheolwr yr hyb yn cyfrifo pris gwerthu’r hyb ei hun ar gyfer y cynnyrch oedd wedi’i gydgrynhoi.   Arweiniodd hyn at faint elw amrywiol ar gyfer pob cyflenwr. Yn yr integreiddio, datblygwyd fformiwla i gyfrifo pris cyfartalog ar draws cyflenwyr ynghyd â maint elw targed yr hyb i gynorthwyo’r broses hon.

Yn ymarferol, canfu’r ddau hyb nad oedd eu prynwyr yn gallu archebu ar-lein, gan eu bod wedi arfer â gwneud eu harchebu dros y ffôn. Felly penderfynwyd dangos cynnyrch ‘heb eu cydgrynhoi’ ar y Open Food Network, gyda chynnyrch wedi’u cydgrynhoi mewn rhestr brisiau ar wahân gafodd ei rhannu gyda phrynwyr. Golygai hyn ddefnyddio’r nodweddion oedd wedi eu hadeiladu i fod yn rhan o Open Food Network i olrhain archebion a danfoniadau yn hawdd, tra hefyd yn gweithio gyda phrosesau caffael presennol prynwyr.

Gwersi Allweddol

Dysgwyd nifer o wersi defnyddiol yn ystod y cynllun peilot, a arweiniodd yn y pen draw at gyflenwi gwerth bron i £4,300 o gynnyrch lleol maethlon a gynhyrchir yn gynaliadwy i’r sector cyhoeddus i gyflenwi dros 80 o archebion. Yma byddwn yn trafod yn fyr y prif wersi o safbwynt rheoli hyb.

    • Roedd ansawdd, ffresni a blas y bwyd wedi creu argraff fawr ar brynwyr.
    • Rhoddwyd cymorth hefyd i gyflenwyr greu eu blaen siop eu hunain ar Open Food Network i werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid unigol drwy’r prosiect, gan gynnig ffrydiau refeniw ychwanegol i’r ffermwyr a’r tyfwyr lleol hyn.
    • Roedd datblygu perthynas â’r prynwyr yn hanfodol, gan gynnwys annog hyblygrwydd o ran mathau o lysiau (h.y. prynwyr eisiau prynu un math o fresych yn unig pan oedd cyflenwyr lleol yn tyfu mathau arall).
    • Er mwyn lleihau gweinyddiaeth yr hyb wrth gydgrynhoi stoc, roedd yn haws i bob cyflenwr gytuno ar un pris fesul cynnyrch, e.e. trwy ddefnyddio’r rhestrau prisiau garddwriaethol.
    • Roedd hyn hefyd yn sicrhau ‘maint elw’ cyson i gyfrannu at gostau’r hwb nad oedd yn ddibynnol ar y cyflenwr a ddefnyddiwyd.
    • Mae angen i hybiau ychwanegu maint elw at brisiau cyflenwyr er mwyn adennill rhai o’u costau rhedeg eu hunain.
    • Roedd annog prynwyr cyhoeddus i ddefnyddio platfform y Open Food Network i archebu yn heriol oherwydd y broses gaffael bresennol o archebu dros y ffôn.
    • Yn gyffredinol felly, roedd rheolwyr hybiau’n derbyn archebion dros y ffôn, ac yn eu rhoi yn y Open Food Network eu hunain.
    • Roedd defnyddio’r system Open Food Network i reoli tasgau archebion wedi symleiddio tasgau gweinyddu i reolwyr hybiau gan gynnwys creu rhestrau pacio ac anfonebau awtomatig, yn ogystal â chaniatáu gwell goruchwylio gweithrediadau a chyllid hyb.
    • Mae ‘profi’r dyfroedd’ gydag archebion llai yn sefydlu perthnasoedd ac yn dangos ansawdd y bwyd, sy’n caniatáu i brynwyr adeiladu ymddiriedaeth mewn ffermwyr a thyfwyr lleol ar raddfa fach.
    • Bydd adeiladu deialog rhwng cyflenwyr a phrynwyr er mwyn sefydlu’r galw a chreu llwybr sefydledig i’r farchnad yn annog tyfwyr bach i gynyddu allbynnau ac addasu i gwrdd â’r galw.

Symud Ymlaen

Mae’r prosiect wedi dangos potensial enfawr i gynyddu’r ganran o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu tyfu yng Nghymru sy’n cyrraedd y plât cyhoeddus.  Mae manteision ehangach y prosiect yn amryfal;  hybu’r economi leol, lleihau allyriadau carbon drwy fyrhau cadwyni bwyd, cefnogi swyddi lleol a gwella’r iechyd y blaned a phobl gyda bwyd amaeth maethlon wedi’i gynhyrchu yn ecolegol. Mae’r Open Food Network yn gyffrous i barhau i weithio gyda’r hybiau caffael bwyd sydd wedi eu sefydlu ac er bod cyllid ar gyfer y prosiect bellach wedi dod i ben, byddai Open Food Network yn croesawu gweithio gyda phartneriaid newydd ar gyfleoedd cyllido yn y maes hwn yn y dyfodol.  Gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag arweinydd y prosiect Bethan Phillips a gallwch ddarllen yr adroddiad llawn, “Rôl Caffael Cyhoeddus yn Trawsnewid System Fwyd Cymru”,  ar wefan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol fan hyn (ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg).

Want to keep up to date with our work?